Mae'r argyfwng hinsawdd yn digwydd nawr, a thanwydd ffosil yw'r prif achos. Serch hynny, bob blwyddyn mae'r diwydiant tanwydd ffosil yn gwneud biliynau - ac mae'n dal i ehangu.
Mae'n rhaid i ni newid cyfeiriad ar frys. Mae'r Cytundeb Anamlhau Tanwydd Ffosil (the Fossil Fuel Non-Proliferation Treaty) yn gynllun byd-eang i ddod â diweddglo cyflym a theg i oes glo, olew a nwy.
Mae'r cynllun ymadael byd-eang trawsnewidiol hwn yn cael ei hyrwyddo gan wledydd sy'n amgylcheddol-fregus yn ne'r byd. Nawr mae angen i wladwriaethau llygredig mawr fel y DU ymuno â'r ymdrech.
Pe bai'r llywodraethau datganoledig, fel Llywodraeth Cymru, yn galw am Gytundeb Tanwydd Ffosil, byddai'n rhoi pwysau sylweddol ar lywodraeth y DU i wneud yr un peth.
A allwch chi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gefnogi'r Cytundeb Tanwydd Ffosil yn gyhoeddus?
- Darllen mwy
Mae'r Cytundeb Anamlhau Tanwydd Ffosil (Fossil Fuel Non-Proliferation Treaty) yn gynnig dewr ar gyfer cytundeb rhyngwladol a fyddai'n cynllunio ac yn rheoli trosglwyddiad byd-eang cyfiawn i ffwrdd o lo, olew a nwy – gan sicrhau nad oes unrhyw wledydd na gweithwyr yn cael eu gadael ar ôl.
Byddai gwledydd yn cytuno i dri maen prawf craidd:
1. ANAMLHAU: Peidio ag ychwanegu tanwydd at y tân drwy ddod ag ehangu cynhyrchu glo, olew a nwy i ben.
2. ATALIAD GRADDOL: cynllun teg i ddod â chynhyrchiad tanwydd ffosil presennol i ben, lle mae cenhedloedd sydd â'r capasiti a'r cyfrifoldeb hanesyddol am allyriadau yn trosglwyddo cyflymaf, gan ddarparu cefnogaeth i eraill ledled y byd.
3. TRAWSNEWID TEG: Llwybr carlam ar gyfer mabwysiadu ynni glân ac arallgyfeirio economaidd i ffwrdd o danwydd ffosil fel nad oes unrhyw weithiwyr, cymunedau na gwelydd yn cael eu gadael ar ôl.
Mae'r Cytundeb Anamlhau Tanwydd Ffosil (Fossil Fuel Non-Proliferation Treaty) yn gynnig dewr ar gyfer cytundeb rhyngwladol a fyddai'n cynllunio ac yn rheoli trosglwyddiad byd-eang cyfiawn i ffwrdd o lo, olew a nwy – gan sicrhau nad oes unrhyw wledydd na gweithwyr yn cael eu gadael ar ôl.
Byddai gwledydd yn cytuno i dri maen prawf craidd:
ANAMLHAU: Peidio ag ychwanegu tanwydd at y tân drwy ddod ag ehangu cynhyrchu glo, olew a nwy i ben.
ATALIAD GRADDOL: cynllun teg i ddod â chynhyrchiad tanwydd ffosil presennol i ben, lle mae cenhedloedd sydd â'r capasiti a'r cyfrifoldeb hanesyddol am allyriadau yn trosglwyddo cyflymaf, gan ddarparu cefnogaeth i eraill ledled y byd.
TRAWSNEWID TEG: Llwybr carlam ar gyfer mabwysiadu ynni glân ac arallgyfeirio economaidd i ffwrdd o danwydd ffosil fel nad oes unrhyw weithiwyr, cymunedau na gwelydd yn cael eu gadael ar ôl.
Llun: John Hanson Pye/Shutterstock